Mae ‘Peidiwch cael eich brathu gan siarcod benthyca’ yn ymgyrch gan Cartrefi Cymunedol i godi ymwybyddiaeth am faint problem siarcod benthyca ac addysgu tenantiaid y medrai benthyca hyd yn oed swm bychan o arian olygu talu miloedd o bunnau mewn llog.
Cynhelir yr ymgyrch yn ystod mis Tachwedd gyda dwy hysbyseb deledu emosiynol ar ITV Cymru a S4C a phosteri heriol a ddangosir ar fysus ar hyd a lled Cymru.
Os ydych yn cael trafferthion i dalu biliau neu i ddod â dau ben llinyn ynghyd, mae nifer o sefydliadau all helpu. Mae’r cyngor yn syml: peidiwch cael eich brathu gan siarcod benthyca a’u llogau uchel. Siaradwch gyda rhai a all helpu!
Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru
Dylai unrhyw un sydd wedi dioddef, neu sy’n adnabod ffrind neu aelod o’r teulu y mae gweithgareddau siarc benthyca wedi effeithio arnynt, ffonio Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru.
Sefydlwyd yr Uned i fynd i’r afael â phroblem benthyca arian anghyfreithlon yng Nghymru. Mae llawer o fenthycwyr arian anghyfreithlon (siarcod benthyca) wedi gweithredu yn ddigywilydd ac yn defnyddio ofn a braw i gynnal eu busnes.
Mae siarcod benthyca fel arfer yn codi crocbris o log a all fod yn filoedd o %, gan greu sefyllfa na all y benthycydd byth ad-dalu’r benthyciad. Cofiwch fod y ddyled i siarc benthyca yn anghyfreithlon ac nad yw’n rhaid ei thalu.
Y rhif arbennig 24 awr yw 0300 123 3311 ac mae pob galwad yn gyfrinachol.
Os ydych chi wedi dioddef eich hunan oherwydd siarc benthyca neu’n gwybod am rywun a ddioddefodd, mae’n bwysig eich bod yn gwybod nad yw benthyca gan fenthycydd didrwydded yn drosedd; y benthycydd fydd wedi cyflawni’r drosedd. Ni fydd yr uned benthyca arian anghyfreithlon yn gweithredu yn erbyn unrhyw unigolyn sydd wedi benthyca arian ond byddant yn ymdrechu i roi unrhyw help a fedrant i’ch cael yn ôl ar y llwybr cywir.
Nid siarcod benthyca anghyfreithlon yw’r unig bobl sy’n targedu tenantiaid bregus. Mae benthycwyr carreg drws trwyddedig hefyd yn manteisio ar denantiaid a medrant godi unrhyw beth o 272.2% cyfradd ganrannol flynyddol (APR) (The Provident) i 2,345% (Quickquid)
Mae nifer o sefydliadau eraill a all gynnig cyngor a chefnogaeth AM DDIM, ac eraill a all roi fenthyciad am ffracsiwn o’r llog a godir gan fenthycwyr carreg drws.
Cymdeithasau Tenantiaid
Os ydych yn denant cymdeithas tai, dylech bob amser siarad gyda’ch swyddog tai. Gall ef neu hi siarad gyda chi am wneud trefniadau i chi dalu eich rhent os ydych mewn ôl-ddyled a chael y cyngor arbenigol ar dai neu arian yr ydych ei angen. Mae rhif eich landlord yn eich llawlyfr a chylchlythyrau tenantiaid.
Moneyline Cymru
Mae Moneyline Cymru yn gynllun cyllid datblygu cymunedol, a ran-ariennir gan ddeunaw cymdeithas tai. Nod Moneyline Cymru yw rhoi arian, cyngor a chredyd i bobl nad ydynt fel arfer yn medru eu cael gan gyrff prif ffrwd fel banciau neu undebau credyd.
Mae pump siop stryd fawr wedi agor yn ne Cymru, a bydd y siopau hyn yn medru rhoi cyngor ar fenthyciadau ac arian i gwsmeriaid ac agor cyfrifon banc sylfaenol iddynt. Mae’r swyddfeydd yn y lleoliadau dilynol:
Cyngor Ar Bopeth
Mae Cyngor Ar Bopeth (CAB) yn rhoi cyngor am ddim, cyfrinachol ac annibynnol, ar gael yn wyneb i wyneb a thros y ffôn. Mae’r rhan fwyaf yn cynnig ymweliadau cartref ac mae rhai hefyd yn rhoi cyngor e-bost. Medrwch ganfod eich canolfan CAB agosaf drwy agor y ddogfen CAB ar y llaw dde, neu ymweld â’u canllawiau ar-lein ar gyfer gwybodaeth gyfredol ymarferol a dibynadwy yn cynnwys cwestiynau cyffredin yn Gymraeg, Saesneg, Bengali, Gujarati, Punjabi, Urdu a Tsieinëeg. www.adviceguide.org.
National Debtline
Mae National Debtline yn llinell gymorth ffôn ar gyfer pobl gyda phroblemau dyled yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, cyfrinachol ac annibynnol. I gysylltu â National Debtline, ffoniwch 0808 808 4000. www.nationaldebtline.co.uk/england_wales
DirectGov
Mae DirectGov yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol ar reoli dyled.
www.direct.gov.uk/ên/MoneyTaxAndBenefits/ManagingDebt/index.htm
Hefyd ar gael ar y safle mae ‘Beginners Guide to Benefits’, yn cynnwys cynghorydd budd-daliadau ar-lein.
Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS)
Mae CCCS yn elusen gofrestredig sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth gyfrinachol yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy’n poeni am ddyled. Yn ogystal â chyngor ffôn uniongyrchol, mae’r Gwasanaeth yn darparu Gwasanaeth Remedi Dyled ar-lein. I gysylltu â’r CCCS, ffoniwch 0800 138 1111. www.cccs.co.uk.
Cyngor Cyfreithiol Cymunedol
Gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol roi help neu gyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim dros y ffôn gyda dyled, tai, cyflogaeth, addysg a budd-daliadau, a chredydau treth. Hefyd ar gael ar-lein mae dyfais rheoli dyled i gael cyngor dyled diduedd a thaflenni a dalenni ffeithiau am ddim ar wybodaeth gyfreithiol. I gysylltu â Cyngor Cyfreithiol Cymunedol, ffoniwch 0845 345 4345.www.communitylegaladvice.org.uk.
Undebau Credyd
Mae undebau credyd yn helpu pobl sy’n ei chael yn anodd cadw trefn ar eu harian, ac yn rhoi cefnogaeth hollbwysig i bobl sy’n methu cael mynediad i wasanaethau bancio prif ffrwd. Gall unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio o fewn ardal Undeb Credyd, ac unrhyw aelod o’u teulu sy’n byw gyda hwy, ymuno. Mae gan lawer o Undebau Credyd hefyd adran ar gyfer cynilwyr ifanc dan 16 oed.
Mae Undebau Credyd yn cynnig man rhwydd a chyfleus i gynilo, ac yn rhoi mynediad i fenthyciadau ar gost isel. Mae llawer yn awr yn cynnig amrediad o wasanaethau eraill yn cynnwys cyfrifon Cronfa Ymddiriedaeth Plant, ISAs, cynnyrch yswiriant, cyngor ar drefnu cyllideb a rheoli dyled. Os hoffech fwy o wybodaeth ar Undebau Credyd yng Nghymru, edrychwch ar wefan Canolfan Cydweithredu Cymru, www.walescoop.com, neu gysylltu â llinell rhadffôn Undebau Credyd yng Nghymru ar 0808 145 4550. Medrwch lawrlwytho rhestr o Undebau Credyd o’r adnoddau ar y dde.
Shelter Cymru
Mae Shelter Cymru yn gweithio i atal digartrefedd, gwella amodau tai, a sicrhau cartref diogel, addas a fforddiadwy i bawb.
I gael cyngor, ffoniwch linell gymorth Shelter Cymru ar 0845 075 5005. www.sheltercymru.org.uk/shelter .Achub Morgeisiau
Cymru oedd y wlad gyntaf i weithredu ei chynllun achub morgeisiau ei hun, sy’n awr yn helpu teuluoedd gyda phecyn £9.5m. Efallai y gall y cynllun eich helpu os ydych yn berchen-breswyliwr mewn anawsterau morgais ac mewn perygl o gael eich cartref wedi’i adfeddiannu. Os ydych yn gymwys, gall cymdeithas tai roi benthyciad ecwiti i ostwng cost eich morgais - neu hyd yn oed brynu eich cartref fel y medrwch barhau i fyw yno fel tenant.
Yn anffodus, mae’r cyllid ar gyfer y cynllun yn gyfyngedig ac felly ni fydd modd cynorthwyo pawb. Rhoddir help i’r rhai sydd mewn mwyaf o angen. Os credwch y medrai’r Cynllun Achub Morgeisiau eich helpu chi, dylech gysylltu â:
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu llyfryn ‘Cymorth Pan Fo’i Angen Arnoch’, y medrir ei lawrlwytho o’r adnoddau ar y dde. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar fudd-dal tai a chynyddu incwm, treth cyngor, cronfa ymddiriedolaeth plant, talu’ch biliau, cadw’ch cartref yn gynnes a chysylltiadau defnyddiol yng nghyswllt eich iechyd, eich swydd a’ch ffordd o fyw.