
Mae dros 600 o aelodau bwrdd gwirfoddol ar fyrddau cymdeithasau tai ledled Cymru, ac mae ganddynt rôl hanfodol yn y sector. Byrddau sydd â’r prif gyfrifoldeb dros lywodraethu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gan:
Gyda fframwaith rheoleiddiol newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dodi pwyslais sylweddol ar hunanasesiad, mae ffocws cynyddol ar fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn nhermau eu gallu i oruchwylio eu sefydliadau, rhoi heriau adeiladol a sicrhau fod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ffynnu yn yr hyn sy’n amgylchedd heriol.
Mae bod yn aelod bwrdd felly yn gyfrifoldeb sylweddol. Mae Cartrefi Cymunedol yn cydnabod hyn ac yn darparu cefnogaeth i aelodau bwrdd mewn nifer o ffyrdd - edrychwch drwy’r adran hon o’r wefan i gael mwy o wybodaeth.
Y cyswllt yn Cartrefi Cymunedol ar gyfer unrhyw ymholiadau yw Amanda Oliver – medrwch gysylltu ag Amanda ar 029 2067 4803 neu amanda-oliver@chcymru.org.uk.