Hygyrchedd make text smaller make text normal size make text larger

Amdano Cartrefi Cymunedol

Mae Cartrefi Cymunedol yn elusen gofrestredig ac yn cynrychioli dros 70 o gymdeithasau tai dielw a sefydliadau tai cymunedol cydfuddiannol yng Nghymru. Mae ein haelodau yn darparu dros 153,000 o gartrefi a gwasanaethau tai ledled Cymru. Mae ein cynadleddau a chyfleoedd hyfforddiant a rhwydweithio, ynghyd â’n cyhoeddiadau a’n gwefan, yn sicrhau fod y mudiad cymdeithasol tai yng Nghymru yn cael gwybodaeth lawn ar faterion o bwys iddynt.

Ein hamcanion yw:

  • Bod yn brif lais y sector tai cymdeithasol
  • Hyrwyddo’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru
  • Hyrwyddo lliniaru caledi ariannol drwy ddarpariaeth y sector o dai cymdeithasol cost isel
  • Darparu gwasanaethau, addysg, hyfforddiant, gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i aelodau.
  • Annog a hwyluso darpariaeth, adeiladu, gwella a rheoli tai cymdeithasol cost isel gan gymdeithasau tai yng Nghymru.

Yn 2011/12, wyddech chi fod Cymdeithasau Tai Cymru wedi:

  • Adeiladu 1973 cartref newydd fforddiadwy - ychydig dros chwarter o darged Llywodraeth Cymru o 7,500
  • Adeiladu 73% o'r 173 cartref yn defnyddio  Grant Tai Cymdeithasol.
  • Gwario £951m yn yr economi yn 2011/12 - cadwyd 80% o'r gwariant hwnnw yng Nghymru.
  • Gwario £493m ar brosiectau adfywio.
  • Clustnodi 57%  o wariant adfywio ar atgyweirio a chynnal a chadw - yn cynnwys gwella eiddo i Safon Ansawdd Tai Cymru
  • Cyflogi 7,500 o bobl yn uniongyrchol - ond am bob swydd uniongyrchol, cefnogwyd dwy arall yn yr economi lleol gan olygu y cafodd 20,200 o swyddi eu cefnogi gan waith y sector.

Rydym yn sector gyda'r gallu a'r hanes o lwyddiant i gyflenwi.

Rhif elusen gofrestredig: 1128527


Mewngofnodi i aelodau

Wedi anghofio'r cyfrinairCofrestru